Arwain, Ysbrydoli, a Gwneud Gwahaniaeth yn ardal Pontypridd: rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i Glwb y Bont!
Mae Clwb y Bont wrth galon bywyd diwylliannol a chymunedol Pontypridd, ac mae ein tîm brwdfrydig a gweithgar o wirfoddolwyr yn chwilio am Gadeirydd egniol gyda gweledigaeth i arwain ein Pwyllgor Rheoli.
Mae hon yn rôl wirfoddol i rywun sy’n angerddol am ddiwylliant Cymreig, am ymgysylltu â’r gymuned, ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein bro. Fel Cadeirydd, byddwch yn llywio cyfeiriad strategol y clwb, cefnogi ein gwirfoddolwyr ymroddedig, ac yn helpu i lunio digwyddiadau a mentrau cyffrous sy’n dod â phobl ynghyd.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Sgiliau arwain a chyfathrebu cryf
- Dull cydweithredol o weithio gyda gwirfoddolwyr, staff a phartneriaid
- Ymroddiad i hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg
- Egni a syniadau i helpu Clwb y Bont ffynnu am flynyddoedd i ddod
Byddwch ar eich ennill yn sgil:
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth parhaol yn eich cymuned
- Cyfleoedd i ddatblygu profiad arwain a llywodraethu
- Mwynhad a bodlonrwydd wrth gefnogi canolfan ddiwylliannol fywiog ym Mhontypridd
Os ydych yn barod i arwain gyda brwdfrydedd a phwrpas, byddai’n braf clywed gennych!
📧 I wneud cais, anfonwch e-bost atom yn amlinellu pam yr hoffech y rôl a’r sgiliau perthnasol sydd gennych i wneud y gwaith.
Lead, Inspire, and Make a Difference in the Pontypridd area: we are looking for a new Chair of Clwb y Bont
Clwb y Bont is at the heart of Pontypridd’s cultural and community life and our enthusiastic and hard working team of volunteers are looking for an energetic and visionary Chair to lead our Management Committee.
This is a voluntary role for someone passionate about Welsh culture, community engagement, and making a real impact. As Chair, you’ll guide the club’s strategic direction, support our dedicated volunteers, and help shape exciting events and initiatives that bring people together.
What we’re looking for:
• Strong leadership and communication skills
• A collaborative approach to working with volunteers, staff and partners
• Commitment to promoting Welsh language and culture
• Energy and ideas to help Clwb y Bont thrive for years to come
What you’ll gain:
• A chance to make a lasting difference in your community
• Opportunities to develop leadership and governance experience
• The satisfaction of supporting a vibrant cultural hub in Pontypridd
If you’re ready to lead with passion and purpose, we’d love to hear from you!
📧 To apply, please send us an email outlining why you would like the role and the relevant skills you have to do the job.